Dylunio
Wefan o
Ynys Môn

Mae’r gwefannau rwyf i wedi eu dylunio a’u hadeiladu wedi helpu busnesau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt i ymestyn eu cyrhaeddiad, cynyddu gwerthiant a gwella ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau.

Nid yw pob busnes wedi’i greu yn gyfartal felly nid wyf yn cynnig ateb ‘”un maint i ffitio pawb”. Barnaf bob busnes a’i ofynion yn unigol.

Cychwynnwch eich prosiect heddiw...

Y pethau sylfaenol - HTML a CSS

Y tu ôl i bob gwefan rwyf yn ei hadeiladu y mae’r cod, a’r blociau adeiladu ar gyfer hwnnw, HTML a CSS. Efallai nad ydych yn malio am hyn ac ni fydd angen i chi weld y cod ei hunan fyth, ond mae’n bwysig.

Trwy gymryd balchder a gofal yn y ffordd rwyf yn rhoi gwefan at ei gilydd gallaf sicrhau bod yr optimeiddiad peiriant chwilio (SEO) yn cael ei adeiladu i mewn o’r dechrau, a bod eich gwefan yn perfformio mor effeithiol â phosibl, gan arwain at brofiad gwell ar eich cyfer chi a’ch ymwelwyr, a fydd yn ei dro yn arwain at fwy o fusnes.

Bydd gwefan sydd wedi’i hadeiladu’n gywir hefyd yn haws ei chynnal a’i haddasu yn y dyfodol.

Cyfieithu Bla Translation

Cyfieithu Bla Translation screenshot

Systemau rheoli cynnwys

Os ydych eisiau medru ychwanegu a golygu cynnwys eich gwefan byddwch angen system rheoli cynnwys (CMS). Rwyf wedi adeiladu gwefannau yn defnyddio Expression Engine, WordPress a Perch i enwi ychydig, pob un â’i wahanol gryfderau ac fe’u detholir a’u cyflunio yn briodol yn dibynnu ar eich hanghenion.

Rib Ride

Rib Ride screenshot

Hooton’s Homegrown

Hooton’s Homegrown screenshot

Gwefannau e-gynnyrch

Efallai bod gennych un cynnyrch neu filoedd o gynhyrchion i’w gwerthu, eisiau cymryd archebion ar-lein, yn cychwyn eto o’r newydd neu eisiau gwella eich presenoldeb cyfredol ar-lein. Beth bynnag yw eich anghenion mae yna ateb priodol ar gyfer eich busnes.

Rwyf wedi ddefnyddio systemau parod fel Magento, WooCommerce ar gyfer WordPress a hyd yn oed fotymau’r hen PayPal i greu’r canlyniadau angenrheidiol heb ffws ac am bris isel.

Yn yr achos prin pan na fu ateb parod ar gyfer angen penodol cleient rwyf hefyd wedi adeiladu systemau cyflawn o’r cychwyn.

Menai Oysters

Menai Oysters screenshot

G. D. Jones & Son

G. D. Jones & Son screenshot

Gwe-Letya

Gall dewis lle i westeia eich gwefan fod yn beth anodd iawn gyda chymaint o ddarparwyr gwesteia i ddewis ohonynt cyn hyd yn oed ystyried yr amrywiol opsiynau sydd ar gael. Ydych chi eisiau gweinydd Windows neu Linux? Faint o le storio ydych chi ei angen? Ydych chi angen rhannu’r gwesteia, gwesteia VPS neu westeia un pwrpas?

Fel rhan o fy ngwasanaeth gallaf hefyd westeia eich gwefan, a’i storio mewn amgylchedd dibynadwy cyflym – heb ei gorlwytho â channoedd o gleientau eraill – perffaith ar gyfer y system sydd wedi’i hadeiladu ar eich cyfer chi’n benodol.

Os cwyd unrhyw broblem gyda naill ai eich gwefan neu’r gwasanaeth gwesteia dim ond ag un lle sy’n rhaid i chi gysylltu a chewch siarad â llais lleol, cyfeillgar.