Stiwdio
Dylunio Gwefan
ar Ynys Môn

Rwyf wedi bod yn dylunio a datblygu gwefannau ers 2003 o fy stiwdio yn Llangefni ar Ynys Môn, er bod fy niddordeb mewn cyfrifiadura yn mynd ymhell yn ôl i ddefnyddio ZX Spectrum yn yr 80au.

Silhouette of Dylan Jones Rwyf yn dylunio ac adeiladu gwefannau oherwydd rwyf wrth fy modd yn creu pethau prydferth, wrth fy modd yn gweld pobl yn elwa o fy ngwaith ac yn mwynhau’r berthynas wych, barhaus sydd gennyf gyda fy nghleientiaid.

Dyma fy ngwaith pob dydd

Er fy mod yn gweithio gyda chleientiaid ar draws y Deyrnas Unedig a thramor mae mwyafrif fy nghleientiaid o Ynys Môn a Gwynedd. Maent yn mwynhau fy ffordd uniongyrchol o siarad, fy agwedd ddi-ffws a’r ffaith fy mod yn un o frîd prin yng Ngogledd Orllewin Cymru – dylunydd gwefannau proffesiynol, amser llawn.

Mae ymateb yn brydlon i negeseuon e-bost a bod ar gael i ateb galwadau ffôn yn ystod y diwrnod gwaith (ac yn aml y tu hwnt i hynny) yn bosibl oherwydd nad yw hyn yn rhywbeth rwyf yn ei wneud yn fy amser hamdden yn unig.

Datblygiad parhaus

Rwyf yn gosod y safonau uchaf i mi fy hun a fy ngwaith, o’r dyluniadau rydych chi’n eu gweld i’r cod nad ydych yn ei weld. Gan gadw yn gyfredol â’r technegau a’r technolegau diweddaraf, rwyf yn sicrhau fy mod bob amser yn dylunio a datblygu gwefannau sy’n cydymffurfio â safonau gwe perthnasol ac sy’n gweithio ac yn perfformio yr ystod ehangaf o borwyr a dyfeisiau gwe.