Dylunio
&
Datblygu Gwefan

Dylan Jones ydw i, rwy'n ddylunydd a datblygwr proffesiynol sy'n byw ym Môn, Gogledd Cymru, a D13 Creative yw fy stiwdio dylunio gwefannau.

Wedi fy ysbrydoli gan gefn gwlad trawiadol Gogledd Cymru, rwyf yn dylunio ac adeiladu gwefannau sy'n edrych yn wych ac sy'n gweithio ar bob math o ddyfeisiau, o ffôn symudol i'r bwrdd gwaith.

Beth am i ni drafod eich prosiect...

Fy nghleientiaid

Isod mae sampl fer o'r cleientiaid ardderchog rwyf i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw.

Yn ddiweddar bu i ni ennill gwobr Twristiaeth Cymru am Entrepreneur y Flwyddyn. Roedd rhan fawr o hyn yn seiliedig ar ein defnydd o dechnoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol er mwyn cyfarfod, rhyngweithio gyda a chadw ein cwsmeriaid. Dylai'r llwyddiant adlewyrchu gystal ar Dylan ag y mae arnom ni.

Tom Ashwell, RibRide

Nid oedd ein gwefan flaenorol yn cynhyrchu unrhyw ymholiadau a methodd ddenu unrhyw fusnes. Ond ers lawnsio ein gwefan newydd rhyw ddwy flynedd yn ôl, bu cynnydd dramatig yn yr ymholiadau a'r archebion. Yn gyffredinol mae ein harchebion oddi wrth berchnogion wedi dyblu bob blwyddyn.

Mae'r gwasanaeth a roddir yn broffesiynol a chyfeillgar, ac mae Dylan bob amser yn barod i gynorthwyo gyda materion yn ymwneud â'r wefan unrhyw bryd. Mae'r coffi'n dderbyniol hefyd.

C. Redmayne, Glan Morfa Lodge